Sut mae rhoi gwybod am waith atgyweirio
Ceir pedair ffordd o roi gwybod i ni am waith atgyweirio y mae angen ei wneud, ac mae’r manylion i’w gweld isod:
Dros y ffôn:
Ymholiadau Cyffredinol
Gwaith atgyweirio – 0800 111 4228 (yn rhad ac am ddim o ffôn y tŷ)
Argyfwng y tu allan i oriau gwaith arferol – 0300 123 3300 (pris galwadau lleol o ffôn symudol)
Caiff ein gwasanaeth adrodd am waith atgyweirio mewn argyfwng, y tu allan i oriau gwaith arferol, ei ddarparu gan: LLINELL GOFAL Cyngor Sir Caerfyrddin.
Defnyddio portal TŷFi
Trwy e-bost:
Gallwch wneud ymholiadau a rhoi gwybod am waith atgyweirio trwy’r cyfeiriad e-bost ar ein gwefan, trwy glicio ar y ddolen gyswllt ganlynol: post@taiceredigion.cymru
Dylech nodi natur y broblem a chynnwys eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn.
Trwy lythyr:
Gellir anfon ceisiadau trwy lythyr i’n pencadlys yn Llanbedr Pont Steffan.