Medra yw tîm Llafur Uniongyrchol cynnal a chadw Tai Ceredigion. Mae gennym 60 o weithwyr yn y fraich hon o'r busnes sy'n cynnwys Plymwyr, Trydanwyr, Saeri, Gweithredwyr Aml-grefft, Peintwyr ac Addurnwyr, Gofalwyr Ystadau a staff gweinyddol.
Mae tîm Medra yn gweithio ar waith cynnal a chadw ac atgyweirio ac uwchraddio cyffredinol o ddydd i ddydd, a thu allan i oriau cyfredol y gweithle. Maent hefyd wrthi'n adeiladu cartrefi newydd sbon o ansawdd uchel i denantiaid ar draws Ceredigion.
Mae Medra hefyd yn cynnig prentisiaethau bob blwyddyn. Gweler ein safle gyrfaoedd am ragor o wybodaeth.


