Grwp Monitro Tai Ceredigion yn ymateb i sylwadau diweddar yn y wasg

Annwyl gyd-denantiaid Tai Ceredigion,

Rwy’n cysylltu â chi heddiw yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd Grŵp Monitro Tai Ceredigion. Cafodd y Grŵp Tenantiaid ei sefydlu gan Gyngor Sir Ceredigion cyn i’r stoc gael ei throsglwyddo i Tai Ceredigion. Yn ôl dymuniad pendant y gymdeithas dai adeg trosglwyddo’r stoc, bu i ni gytuno i barhau i fod yn brif gorff cynrychiadol ar gyfer ein cyd-denantiaid. Mae’n bwysig i mi bwysleisio bod yr aelodau i gyd yn denantiaid Tai Ceredigion sydd wedi mynegi diddordeb mewn bod yn rhan o’r grŵp, a’u bod yn rhoi eu hamser o’u gwirfodd.

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o grwpiau tenantiaid tai cymdeithasol, mae gennym gryn dipyn o annibyniaeth ac ni chawn ein cyfarwyddo na’n llywodraethu gan ein landlord. Rydym yn cyfrannu at benderfyniadau ar y lefel uchaf er mwyn sicrhau bod buddiannau ein cyd-denantiaid yn parhau wrth wraidd gweithrediadau ein landlord. Mae’r rheoleiddiwr tai yn ymgysylltu â ni’n uniongyrchol, ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ein bod yn un o lond llaw o grwpiau tenantiaid sy’n cymryd rhan yn annibynnol yn ei hymgynghoriadau er mwyn sicrhau bod llais y tenantiaid yn cael ei glywed.

Rydym yn cyflawni llawer o rolau, ac un o’r rheini yw adolygu polisïau cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr. Mae hynny’n sicrhau nad yw unrhyw newidiadau arfaethedig yn effeithio’n andwyol ar hawliau tenantiaid.

O ystyried yr adroddiadau diweddar a welwyd yn y Cambrian News, roedd y grŵp yn teimlo y byddai’n ddoeth tynnu sylw at wallau niferus yn yr adroddiadau a welwyd ynghylch y digwyddiad hwn.

1. Cyn i’r stoc gael ei throsglwyddo, roedd cytundeb tenantiaeth Cyngor Sir Ceredigion yn cynnwys y cymal “Dim anifeiliaid anwes mewn fflatiau”. Cafodd y cymal hwn ei fabwysiadu gan Tai Ceredigion hefyd, ac rydym ar ddeall ei fod yn gymal sy’n bodoli ers degawdau lawer yn y sector tai cymdeithasol ledled y DU.

2. Ar ôl i’r stoc gael ei throsglwyddo, bu staff yr adran dai yn ymweld â phob tenant er mwyn iddynt lofnodi’r cytundeb tenantiaeth newydd, sy’n cynnwys canllawiau i berchnogion anifeiliaid anwes. Mae’r eitem honno hefyd yn cyfeirio at y polisi “Cadw Anifeiliaid Anwes”. Yn ogystal, caiff y tenantiaid gopi o’r “Llawlyfr i Denantiaid” sy’n nodi’n benodol na chaniateir anifeiliaid anwes mewn fflatiau neu dai gwarchod sy’n rhannu mynedfa. Caiff y dogfennau hyn eu rhoi hefyd i denantiaid newydd pan fyddant yn dechrau eu tenantiaeth.

3. Yn dilyn y newidiadau a wnaed i ddeddfwriaeth ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a oedd yn cynnwys y “Ddeddf Cŵn Peryglus”, buom ni (y grŵp) yn adolygu’r Polisi Cadw Anifeiliaid Anwes ddechrau 2016. Yn gryno, ni chafodd y cymal dan sylw ei ddiwygio gan fod ein profiad personol wrth gynnal Archwiliadau Rheoli Ystadau ac Adolygiadau Safonau Gwasanaeth yn amlygu’n gyson y problemau y mae ein tenantiaid mewn fflatiau, mewn cynlluniau tai gwarchod ac ar ein hystadau’n eu dioddef oherwydd perchnogion anghyfrifol anifeiliaid anwes.

4. Yn dilyn ein hadolygiad dilynol o’r ohebiaeth a roddwyd i denantiaid yn y fflatiau yn Aberystwyth gan Tai Ceredigion, nid oes unrhyw arwydd y bydd y tenantiaid yn cael eu troi allan neu’n cael deiliadaeth ac iddi statws is, fel yr awgrymir yn erthygl y Cambrian News, ac nid oes unrhyw arwydd y bydd gwaharddiad cyffredinol ar gŵn yn cael ei fabwysiadu ar draws yr holl stoc dai.

5. Yn unol â deddfwriaeth ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, gweithdrefn Tai Ceredigion yw rhoi rhybudd i berchennog anifail anwes os oes helynt wedi digwydd. Pe bai angen, byddai Tai Ceredigion a landlordiaid eraill tai cymdeithasol yn cael gorchymyn llys i symud anifail anwes. Yn achos Tai Ceredigion, nid yw hynny’n golygu cyflwyno deiliadaeth ac iddi statws is na throi tenantiaid allan, ac eithrio mewn achosion eithafol ac achosion lle mae helynt yn digwydd dro ar ôl tro.

6. Rydym wedi cael gwybod gan Tai Ceredigion bod y cam gweithredu hwn wedi codi oherwydd bod rhai cŵn yn y fflatiau’n gwneud eu dŵr a’u baw mewn ardaloedd cyffredin, megis grisiau, landins a mynedfeydd. Cafwyd achos hefyd lle ymosododd ci ar denant arall yn y fflatiau tra oedd y tenant yn ceisio mynd i mewn i’w heiddo. Mae tystiolaeth ffotograffig ar gael hefyd o falconi â lefel annerbyniol o faw ci arno.

7. Rydym ar ddeall bod Tai Ceredigion yn gwybod am 8 o berchnogion cŵn yn y 52 eiddo dan sylw. Mae’n anffodus bod Tai Ceredigion wedi gorfod mabwysiadu’r dull gweithredu hwn, yn enwedig i’r sawl sy’n berchnogion cyfrifol anifeiliaid anwes. Wedi dweud hynny, mae dyletswydd gyfreithiol ar landlordiaid i sicrhau nad yw holl breswylwyr cymuned mewn perygl oherwydd cŵn nas rheolir, er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a achosir gan gŵn a sicrhau bod cymunedau yn amgylcheddau glân a diogel ar gyfer staff a phawb sy’n ymweld â’r preswylwyr.

8. At hynny, hoffem godi cwestiwn ynghylch tegwch taliadau gwasanaeth. Pam y dylid disgwyl i’r rhan fwyaf o denantiaid sydd heb gŵn ac sy’n byw mewn lleoliad o’r fath dalu taliadau gwasanaeth uwch er mwyn mynd i’r afael â’r problemau a nodir uchod?

Yn olaf, mae eich cytundeb tenantiaeth yn gontract sy’n gyfreithiol rwymol. Mae’n bwysig eich bod yn ei ddarllen yn fanwl er mwyn deall eich rhwymedigaethau chi fel tenant, a deall rhwymedigaethau Tai Ceredigion i chi fel tenant.

Cofion,

Paul Clasby,

Cadeirydd a Pherchennog Ci Tywys

Grŵp Monitro Tai Ceredigion